Y diweddaraf am Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru

 

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

 

Ar 27 Medi cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru ganlyniadau ein Hadolygiad Buddsoddi.

 

Cafodd 81 sefydliad ledled Cymru gynnig amodol o arian ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, cyfanswm o £29.6 miliwn. Mae hyn yn cynnwys 23 sefydliad fydd yn cael ei ariannu am y tro cyntaf.

 

Mae'r cynigion yma’n amodol ar ganlyniadau ein proses apelio a chadarnhad o'r arian a gawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cawsom 139 cais cymwys am yr Adolygiad Buddsoddi ac felly, yn anochel, ni allem ariannu pob sefydliad nac ariannu’r sefydliadau i'r lefel yr oeddent wedi gofyn amdani.

 

Sut penderfynoch roi arian?

 

Gwnaed penderfyniadau ariannu ar sail y 6 egwyddor yn ein Canllawiau – Creadigrwydd, Ehangu Ymgysylltiad, y Gymraeg, Cyfiawnder Hinsawdd, Meithrin Talent a Thrawsnewid.

 

Yna ystyriem bum 'ffactor cydbwyso' sef gwasanaethu cymunedau ledled Cymru, ystod eang o gelfyddydau a chyfleoedd creadigol, lleisiau heb eu hariannu a heb eu clywed o’r blaen, gwerth cyhoeddus, a maint a siâp y sefydliadau sy'n ymgeisio.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

 

Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau llwyddiannus i'w cefnogi yn eu cynlluniau i ddatblygu rhaglen o weithgarwch sy'n dechrau yn Ebrill 2024.

 

Roedd gan sefydliadau a oedd yn aflwyddiannus yn eu cais, yn ogystal â'r rhai a gafodd gynigion is na'r swm y gofynnwyd amdano, yr hawl i apelio ar y sail a ddisgrifir yn y broses apelio o fewn 21 diwrnod calendr o ddyddiad yr hysbysiad. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid cyflwyno'r apêl erbyn 4yp ddydd Mercher 18 Hydref.

 

 

Sawl sefydliad a apeliodd yn erbyn ein penderfyniad, a beth fydd yn digwydd nesaf?

 

15 sefydliad a apeliodd yn erbyn penderfyniad cychwynnol y Cyngor. Ar ôl ystyriaeth gan yr adolygydd allanol, sydd yn annibynnol o Gyngor Celfyddydau Cymru, mae un sefydliad wedi cael ei ddyfarnu fel bod â sail am apêl.

 

Bydd Panel Apêl annibynnol nawr yn cwrdd i ystyried yr apêl. Bydd y Panel yn cael ei ddarparu â’r holl wybodaeth berthnasol am yr apêl, yn ogystal ag unrhyw ymateb gan y Cyngor Celfyddydau.

 

Bydd gwrandawiad yr apêl yn galluogi’r Panel i gael dealltwriaeth lawn o’r rhesymau tu ôl i benderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â sail yr apêl, er mwyn sicrhau bod dyfarniad teg yn cael ei wneud.

 

Bydd y sefydliad sy’n apelio a’r Cyngor yn gael gwybod am argymhelliad y Panel 7 diwrnod calendr ar ôl y gwrandawiad. Bydd y Cyngor wedyn yn ystyried yr argymhellion yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr.

 

Beth fydd yn digwydd i sefydliadau na chaiff eu hariannu yn y dyfodol?

 

Mae sefydliadau aflwyddiannus a oedd yn aelodau o Bortffolio Celfyddydol Cymru yn gymwys i gael Cymorth Pontio i'w cynorthwyo i ymaddasu. Mae rhagor o wybodaeth am y Cymorth Pontio i'w gweld yn ein papur a gyhoeddon yma.

 

Ysgrifennom at bob sefydliad yn y Portffolio yn Chwefror 2023 i’w hysbysu na fyddai sicrwydd o arian aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru o Ebrill 2024 ymlaen.

 

Gall pob sefydliad a fu'n aflwyddiannus yn yr Adolygiad Buddsoddi wneud cais am y grantiau eraill sydd ar gael gennym a gallant ymgeisio yn y dyfodol am arian aml-flwyddyn.

 

Rydych yn crybwyll 'Ymyriadau Strategol'. Beth yw ystyr hynny?

 

Yn ystod yr Adolygiad Buddsoddi, dechreuom gydnabod bod diffygion neu fylchau posibl yn y ddarpariaeth ac rydym wedi dyrannu £1.4 miliwn i ymgymryd â chyfres o ymyriadau strategol i ddatrys hyn.

Rydym wedi adnabod bod rhai ardaloedd yng Nghymru yn cael eu tangynrychioli oherwydd bod nifer isel o geisiadau, neu ceisiadau oedd yn gymwys ar gyfer cael eu cyllido. Rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol perthnasol er mwyn trafod sut gallwn gydweithio er mwyn gwella’r sefyllfa.

Rydym wedi gwneud ymrwymiadau mewn 14 maes, gan gynnwys cynrychiolaeth anabl mewn theatr drwy RAMPiau Cymru, adolygu theatr Saesneg, adolygu dawns gymunedol ac adolygu cerddoriaeth draddodiadol. Er ein bod yn parhau i weithio ar fformat yr ymyriadau hyn, rydym wedi ymrwymo i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill wrth i ni ddatblygu'r ymyriadau.

Mae ein hadroddiad cyhoeddedig yn cynnwys rhestr o'n hymyriadau strategol a nodom drwy'r Adolygiad Buddsoddi. Mae'r crynodeb i'w weld ar dudalen 46 o'r adroddiad.